Blwyddyn Gyda'r Sprout
English version
Wel, wel, mae hi wedi bod yn amser hir yn tydi! Byddwn i'n ymddiheuro nad wyf wedi cyflwyno unrhyw beth gweddus (neu o gwbl) ers am byth, ond dwi ddim yn meddwl bod angen, felly dwi ddim am.
Felly, ar ôl fy niffyg dros drom efallai dy fod di'n pendroni beth sydd wedi perswadio fi i bigo'r gliniadur i fyny unwaith eto. Neu efallai dy fod wedi sylweddoli ar y teitl. Ia, fy annwyl Sproutwyr, a gwir, ffrindiau; heddiw ydy fy mhen-blwydd cyntaf gyda theSprout.
Ddim yn credu'r peth? Edrycha ar fy enw. Cer amdani. Clicia fo. Mae o yn fan yna. Ti'n gweld?! Stormer007 o Gaerdydd – aelod ers 14 Awst 2010. A'r dyddiad heddiw? Wel, y 14 o Awst 2011. I'r rhai ohonoch sydd wedi ffaelu blwyddyn 1 trefnu dyddiadau, dyma flwyddyn union.
Ac mae'n rhaid i mi ddweud fod hwn wedi bod yn flwyddyn aruthrol! Dwi wedi cyflawni cymaint mewn cyfnod mor fyr, ac mae hyn i gyd yn ddiolch i'r bobl hyfryd yn theSprout a CLIC. Dwi wedi bod i lefydd yng Nghymru na fyddwn erioed wedi ymweld â chynt ac wedi cael amser anhygoel yn ei wneud, yn gwneud ffrindiau gwych ac yn dysgu sgiliau newydd fydd efo fi am byth.
Mae fy nghreadigrwydd wedi ffynnu diolch i natur dderbyniol y Sprout a CLIC a'i ddarllenwyr. Dwi wedi ysgrifennu dwsinau o erthyglau, a dwi'n falch iawn o bob un hefyd. Dwi hyd yn oed wedi gwneud cwpl o fideos gydag un o fy ffrindiau anwylaf dwi wedi'i gyfarfod trwy CLIC, CrazyDistortion. Edrycha amdano! Mae o'n anhygoel! Cawsom hwyl fawr yn eu creu ac mae wedi bod yn wych gwybod fod gen i'r potensial i wneud fideos mor anhygoel pam fyddaf eisiau! Mae CLIC yno i gefnogi creadigrwydd ifanc ac yn gwneud hyn yn gwbl galonnog.
Dwi wedi gweld llawer o theatr a gigiau diolch i theSprout a CLIC (am ffi fach wrth gwrs, sef adolygiad) ac maent wedi bod yn aruthrol. Mae un yn aros yn fy nghof, sefAvenue Q i lawr yn yng Nghanolfan y Mileniwm. Roedd yn gampus a phrynais y trac sain.
Dwi wedi gwneud pethau gwir anghyffredin diolch i'r Sprout a CLIC ac maent wedi newid fy mywyd o gwmpas ac wedi ei roi ar ryw fath o gyfeiriad, lle cynt, nid oedd un. Maent wedi gwneud i mi deimlo fel fy mod i'n bwysig ac efo gwerth. Dwi mewn dyled i'r bobl sydd tu ôl i'r sefydliad newid bywyd yma am byth am fod mor wych, diffuant a charedig.
Dwi wedi cyfarfod pobl anhygoel yn CLIC sydd wedi, os ydynt yn gwybod hyn neu beidio, wedi newid fy mywyd yn gyfan gwbl. Hoffwn ddiolch i'n holl olygyddion cwbl gwych. Byddwn yn manylu mwy ond dwi'n agos at ddagrau nawr, felly fe ddywedaf diolch i chi o waelod fy nghalon. Diolch.
Newyddion » Categorïau » Hanes
Beth yw Sprout? » Cwestiynau Cyffredin
DELWEDD: 166/365 gan ladybugbkt
Erthygl Berthnasol: Erthygl 2000: Hanes Y Sprout







