Cau Spillers...
... A Chwymp Diwydiant Cerdd De Cymru
Iawn, dwi’n cyfaddef fod cwymp diwydiant cerdd De Cymru yn rhywfaint o or-ddweud, a dyw Spillers Records ddim yn cau, ond yn adleoli, ond rwy’n siŵr y byddai unrhyw artist yn cyfaddef mai Spillers yw eicon y sîn gerddoriaeth yn y parthau hyn.
Enwyd y siop recordiau hynaf yn y byd fel ysbrydoliaeth gan Manic Street Preachers ac mae wedi bod yn hafan i fandiau fel Catatonia a’r Super Furry Animals, ond nawr yn ei ffurf bresennol mae’n dod i ben.
Yn 2006 rhoddwyd Spillers ar y farchnad, ond yn awr cyhoeddwyd y bydd y siop yn cael ei hadleoli, ar ôl clywed bod yn rhaid iddyn nhw adael eu safle presennol erbyn dydd Mercher 30 Mehefin.
Y rheswm yw bod y landlordiaid wedi cynyddu’r rhent oherwydd cynnydd yn y farchnad eiddo o ganlyniad i Dewi Sant 2 a datblygiadau eraill. Ni all Spillers fforddio’r rhent newydd oherwydd bod pobl yn prynu CDs ar-lein yn hytrach nag mewn siopau recordiau traddodiadol. Mae CDs yn rhatach ar-lein oherwydd bod llawer o siopau’r rhyngrwyd wedi eu lleoli yn Ynysoedd y Sianel lle nad ydynt yn talu treth.
Mae rheolwr Spillers wedi dweud nad ydyn nhw’n beio’r landlordiaid am y sefyllfa y maen nhw ynddi.
Er bod Spillers wedi dweud wrthyf yn bersonol eu bod yn symud i le dros dro (gan ychwanegu eu bod o ganlyniad yn cymryd llai o stoc ac yn methu â gwneud perfformiadau yn y siop) oni bai eu bod yn cael safle newydd efallai y bydd yn rhaid i ni ymdopi â cholli’r siop recordiau hynaf yn y byd.
DOLENNAU
Cerddoriaeth yn adran gwybodaeth
CLIC
DELWEDD: Howard Dickens






