Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Clefyd Siwgr: Fy Stori

Posted by Sambow from Cardiff - Published on 28/04/2010 at 13:31
0 comments » - Tagged as Food & Drink, Health, People, Topical

  • d

English version.

Gallaf ddweud yn onest fy mod mae’n debyg wedi cael Gwyliau Pasg gwaethaf fy mywyd.

Pam?

Oherwydd yn y cyfnod hwnnw cefais ddiagnosis o fod yn dioddef o glefyd siwgr teip un.

Roedd yn sioc enfawr i mi ac i’m teulu.  Criais am oriau ar ôl cael y newyddion – gan wybod ei fod yn mynd i newid fy mywyd i gyd. Roeddwn yn arbennig o ofnus ynglŷn â mynd i’r ysbyty a phan es roedd llond y lle o wynebau difrifol o’m cwmpas. Roedd pobl yn ymddiheuro drwy’r amser, yn dweud wrthyf unwaith y byddwn wedi dod i arfer ag ef y byddai fy mywyd yn mynd yn ôl yn normal. Roeddwn yn ei chael yn anodd eu credu.

Bu’n rhaid imi aros yn yr ysbyty am dri diwrnod, i ddysgu sut i wneud popeth. Cyflwynwyd y rheolau sylfaenol i mi ynglŷn â phigiadau dyddiol, profi fy ngwaed, hypos a phethau felly hyd nes roedd y geiriau ‘clefyd siwgr’ yn fy myddaru. Roedd yn erchyll, ond roedd cael fy nheulu yno gyda mi yn gwneud y cyfan ychydig yn haws.

I’r rhai ohonoch nad ydynt yn gwybod, clefyd siwgr teip un yw pan fo eich pancreas yn stopio cynhyrchu digon o inswlin er mwyn cael glwcos (siwgr) i’r celloedd yn eich corff. Er mwyn helpu hyn rhaid i chi gael pigiadau dyddiol sy’n cyflenwi inswlin i’ch corff.  A rhaid i chi ofalu eich bod yn gwylio’r holl garbohydradau yr ydych yn eu bwyta, a gofalu eich bod yn eu gorchuddio gyda digon o inswlin. Roedd yn anodd addasu i hyn, ond roedd gennyf arbenigydd gwych ar glefyd siwgr a ddysgodd bopeth yr oedd angen imi ei wybod a gwnaeth imi deimlo nad fi oedd yr unig un yn y byd oedd yn gorfod byw gyda hyn. Roeddwn yn gwybod nad fi oedd yr unig un, ond roedd yn sicr yn teimlo felly.

Bellach mae ychydig o wythnosau wedi mynd heibio ers imi gael y diagnosis ac rwy’n meddwl fy mod wedi cael gafael ar bethau. Rwy’n dal i deimlo’n emosiynol wrth feddwl amdano, ac mae gwylio fy ffrindiau i gyd yn bwyta mor ddibryder yn gwneud imi deimlo braidd yn genfigennus.  Ond ar ôl egluro iddyn nhw am y clefyd siwgr maen nhw fel pe baent yn deall mwy. Er bod y pigiadau yn ymddangos yn frawychus i ddechrau, rydw i wedi dysgu eu goresgyn yn araf. Rydw i hefyd wedi dysgu pryd i snacio a beth i’w fwyta cyn prydau. Dyw bwyta yn ystod pryd bwyd ddim yn broblem mewn gwirionedd oherwydd fy mod yn gorchuddio’r bwyd gydag inswlin beth bynnag.

Roeddwn braidd yn ofnus pan ddywedwyd wrthyf am hypo posibl, pe bai'r siwgr yn fy ngwaed yn gostwng yn rhy isel fel y byddwn yn llewygu neu ar y gwaethaf yn mynd i goma. Fe’m sicrhawyd ei fod yn annhebyg iawn oherwydd y byddwn yn rheoli’r clefyd siwgr ac yn peidio gadael i’r siwgr yn y gwaed ostwng mor isel â hynny. Cefais fy sicrhau hefyd fod gan bobl eraill yn fy ysgol glefyd siwgr, yn ogystal â phobl eraill yn fy nghlwb nofio. Roedd hyn yn helpu ychydig.

O ran nofio, gallaf ddal i fynd: mae’r sesiynau yn anodd felly roeddwn yn pryderu y byddai’n rhaid i mi roi’r gorau i nofio neu symud i grŵp oedd yn symud yn fwy hamddenol. Ond erbyn hyn mae trefn y pigiadau yn gallu bod yn hyblyg a chyd-fynd â’m ffordd o fyw athletig, a byddai dal i fynd yn ôl fy nghyflymder nofio arferol yn iawn. Mae’n rhaid imi sicrhau fy mod yn dod â diod chwaraeon gyda siwgr gyda mi rhag ofn hypo.

Rydw i hefyd wedi addasu i gymryd fy mhigiadau inswlin pan ydw i yn yr ysgol, gan geisio parhau fel arfer – mae’n galed ond rwy’n benderfynol o’i wneud.

Dywedwyd wrthyf y dylwn barhau â’m bywyd fel arfer, ac y dylwn ffitio clefyd siwgr o amgylch fy mywyd – nid fy mywyd o amgylch clefyd siwgr.

Mae clefyd siwgr fel pe bai yn rhan o gyfnod arall yn fy mywyd ond yn sicr nid dyma fydd ei ddiwedd.

Diolch am y llun: 'The Pincushion Effect' gan duisburgbunny. (Bydd clicio ar y ddolen yn dangos nifer o grwpiau artistig ar Flickr a gynhelir gan bobl sy’n ymdopi gyda clefyd siwgr)

Dolennau Defnyddiol:

Adran Gwybodaeth Clefyd Siwgr

http://www.diabetes.org.uk/

http://www.tudiabetes.org/

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.