Welcome to The Sprout! Please sign up or login

CLICiwr Y Flwyddyn

Posted by CLICtania from National - Published on 28/11/2011 at 11:51
0 comments » - Tagged as Music, People, Stage

  • ja
  • am
  • rob

English version

Gwobrau CLIC 2011

Ar nos Sadwrn 19 Tachwedd 2011, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, cynhaliwyd y Gwobrau CLIC anhygoel. Roedd y noson gyfan yn anhygoel a dwi'n eithaf sicr fod pawb yno wedi mwynhau.

(Rhag ofn ti ddim yn gwybod yn barod) mae CLICarlein yn wefan sydd yn cynnig gwybodaeth, newyddion a chyngor i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed dros Gymru. Gall ysgrifennu erthygl ar beth bynnag ti eisiau, cyflwyno digwyddiadau, a bod yn rhan. Mae CLIC efo gwefannau lleol a thimau golygyddol sydd yn cael eu rhedeg gan bobl ifanc sydd yn cymryd rhan yn y wefan.

Mae CLIC wedi newid fy mywyd i yn y flwyddyn ddiwethaf gan fy mod i wedi dioddef gydag iselder ac ar hyn o bryd yn dioddef o Bryder a Cyclothemia, ffurf o anhwylder deubegwn. Yn ystod 2009, rwyf wedi dioddef gyda chwalfa nerfol ac roedd fy emosiynau mewn darnau. Yn y ddwy flynedd diwethaf, rwyf wedi bod yn ceisio cyfuno fy mywyd ysgol a cymdeithasol gyda'i gilydd a pan gefais wybod am CLIC roedd hyn yn fy helpu yn enfawr gan fy mod wrth fy modd yn ysgrifennu; roedd gweld fy ngwaith ysgrifennu yn cael ei gyhoeddi ar y wefan leol i Rondda Cynon Taf, Wicid, yn hwb mawr i'm hyder a pam roeddwn yn cael y cynnig i adolygu pethau a chyfweld bandiau, roeddwn yn bachu'r cyfle (a dal yn) ac roedd hyn yn arwain at finnau yn gwneud ffrindiau newydd, fel mae'r penwythnosau preswyl CLIC a Wicid yn eu gwneud hefyd.

Yn ôl at y gwobrau!

I gychwyn cawsom adloniant tu allan gan act syrcas, No Fit State, oedd yn hwyl i wylio. Yna am 6:30 roedd y digwyddiad yn cychwyn gyda'n dau gyflwynydd, Beth Owen a Danial Evans, yn cyflwyno'r noson ac ychydig o glipiau ffilm yn cael eu dangos. Yn syth ar ôl hyn, cafodd y tair gwobr gyntaf eu cyflwyno: Ffotograffydd y Flwyddyn, Erthygl Fwyaf Defnyddiol ac Erthygl Fwyaf Doniol.

Dilynwyd hyn gan y comedïwr Robin Morgan ond oherwydd problemau technegol, nid oedd pawb yn gallu ei glywed, ond dwi'n meddwl efallai ei fod yn eithaf doniol gan fod y bobl yn y blaen yn chwerthin. Yna cawsom weld enwebiadau Fideo'r Flwyddyn ac yna'r tair gwobr nesaf: Fideo'r Flwyddyn, Erthygl Greadigol Gorau, Adolygiad Gorau.

Cafodd Ffilm y Flwyddyn ei gyhoeddi ynghyd â mwy o wobrau cyn i (Dirprwy Weinidog Sgiliau) Jeff Cuthbert gymryd i'r llwyfan a rhoi araith cyn cyhoeddi CLICiwr y Flwyddyn. Pan alwyd fy enw i fel enillydd, roeddwn i wedi fy synnu yn gyfan gwbl. Roeddwn wedi cael fy enwebu am bum gwobr a ddim yn disgwyl ennill dim ohonynt; ond roeddwn yn ddigon hapus efo cael fy enwebu. Ond i ennill? Wow, roeddwn i wedi synnu ac yn hollol ecstatig. Wrth i mi fynd i fyny i'r llwyfan, roedd pawb yn gwaeddi a chlapio ac roeddwn i yn dal mewn sioc.

Derbyniais y wobr ac es ymlaen i gael llun enillydd cyn cael fy ngalw yn ôl i'r llwyfan i roi araith derbyniad. Dwi ddim yn dda iawn yn gwneud araith – yn enwedig pan fyddaf yn gorfod meddwl am un yn y fan a'r lle – felly mwmiais ychydig o eiriau, diolch i bawb a mynd oddi ar y llwyfan i wylo i mewn i hwdi Stormer007. Gallwn i ddim credu'r peth. Dwi dal yn methu. Ar ôl i'r holl enillwyr gael tynnu llun, es yn ôl i'm sedd i gael pawb yn gwaeddi, curo dwylo, cofleidio a llongyfarch fi. Roeddwn i'n wylo bob munud, ond dwi mor falch o fod wedi ennill y wobr yma. Nid oes geiriau i ddisgrifio sut ydw i'n teimlo.

Yna aeth enillwyr Brwydr Y Bandiau CLICarlein i'r llwyfan i berfformio rhai o'u caneuon. Dwi wrth fy modd gyda Eric Unseen a nhw ydy fy mand gorau i ar hyn o bryd felly roedd cael nhw'n perfformio yn eising ar frig y gacen i'r noson i fi. Dawnsiais gyda phobl anhygoel, cymryd llwyth o luniau a hyd yn oed cael fy nghyfweld. Dwi dal mewn sioc a ddim wedi gallu meddwl yn syth ers ennill. Feddyliais i erioed byddwn i'n cael mor bell gyda CLIC a Wicid ond mae'n rhaid fy mod i'n anghywir.

Dwi'n meddwl fod fy arwr, Walt Disney, yn iawn pan ddywedodd "Gall ein holl freuddwydion yn dod yn wir os oes gennym y dewrder i ddilyn nhw."

Hoffwn ddiolch i bawb bleidleisio amdanaf, CLIC a Wicid am roi'r cyfleoedd i mi a fy holl ffrindiau a theulu am fod yna i fi (mae hyn yn swnio fel ryw araith cawslyd yn yr Oscars tydi? Sori am hynna) a dwi wir yn argymell CLIC i unrhyw berson ifanc sydd eisiau rhywun glywed eu barn. Mae'n anhygoel, creda fi.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.