Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Dathlu Ieuenctid LHDT

Posted by LoudandProud from Cardiff - Published on 10/01/2011 at 16:52
0 comments » - Tagged as Culture, Education, Festivals, History, Topical

  • lgbt history month

English version

Mae mis Chwefror yn adnabyddus yn y gymuned Lesbiaid, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LHDT) fel Mis Hanes LHDT.

Mae Mis Hanes LHDT yn ymwneud â dathlu bywydau a llwyddiannau pobl LHDT. Mae mis Hanes LHDT hefyd yn ymwneud â dathlu’r amrywiaeth o fewn y DU.

Mae’n gyfle i bob un ohonom ddysgu mwy am hanesion pobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ym Mhrydain a Gogledd Iwerddon.

Tan yn ddiweddar, roedd yn well gan y rhan fwyaf o bobl LHDT osgoi sylw. Mae nifer dal yn Hyd yn oed heddiw, mae’r gosb i’r rhai sydd yn gwrthod cuddio eu hunan, neu yn methu â gwneud hyn, yn gallu bod yn llym. Gallent amrywio o ddiarddeliad ac erledigaeth i ymosodiad a hyd yn oed llofruddio.

Yn y gorffennol, roedd y distewi o bobl LHDT yn aml yn cael ei atgyfnerthu gan ddeddfwriaeth. Yr esiampl fwyaf diweddar oedd Adran 28, wedi’i basio yn 1988 a’i ddiddymu yn 2003, oedd yn bwriadu cyfyngu dadl ar wrywgydiaeth, yn enwedig mewn ysgolion.

Mae Adran Ysgolion a Dysgu Gydol Oes Cyngor Sir Caerdydd wedi bod yn cynnal cynhadledd Mis Hanes LHDT dros y tair blynedd diwethaf ac mae un eleni yn ymwneud â dathlu ieuenctid LHDT. Os oes gen ti ddiddordeb yn y gynhadledd yma yna plîs darllena isod.

Dathlu Ieuenctid LHDT – Cynhadledd Addysg ac Ieuenctid Cymru Gyfan 2011

Mae’r drydedd Gynhadledd flynyddol Addysg ac Ieuenctid Mis Hanes LHDT Cymru Gyfan yn cael ei gynnal yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ar ddydd Llun 7 Chwefror 2011.

Fel rhan o Fis Hanes Lesbiaid, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol sydd yn digwydd bob blwyddyn yn fis Chwefror ac yn dathlu bywydau a llwyddiannau’r gymuned LHDT, bydd Cyngor Caerdydd a’i bartneriaid yn cynnal y digwyddiad unwaith eto i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl ifanc, amlygu a rhannu arferion da a darparu cefnogaeth o’r agenda cynhwysiad mewn ysgolion.

Wedi’i drefnu gyda Cymru Ddiogelach, yr LGBT Excellence Centre, Caerdydd Yn Erbyn Bwlio a’r prosiect All Wales Hate Crime Research, mae’r digwyddiad eleni yn cael ei gefnogi gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd Caerdydd, Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr ac Ysgol Gyfun Radur ynghyd â phobl ifanc o Ddarpariaeth Ieuenctid (LHDT) Loud & Proud.

Mae’r digwyddiad trwy’r dydd yn addas ar gyfer athrawon, gweithwyr ieuenctid a phobl broffesiynol eraill sydd yn gweithio gyda phobl ifanc a bydd yn cynnwys gweithdai i rannu ymarfer da a gwella gwasanaethau.

Cost y digwyddiad ydy £30 a bydd amryw o gyflwyniadau, dramâu, ffilmiau a gweithdai gan ddisgyblion, athrawon, grwpiau ieuenctid a gweithwyr ieuenctid yn ogystal â phobl broffesiynol yn y maes i ddathlu’r gwaith sydd yn cael ei gyflawni gan bobl ifanc LHDT a’u cefnogwyr, a rhannu ymarferion da dros Gymru.

Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cynghorydd Freda Salway: “Mae’n grêt clywed fod y bobl ifanc eu hunain yn cymryd rhan yn y gynhadledd. Mae’r Cyngor yn cymryd y fater o gynhwysiad yn ein ysgolion yn ddifrifol iawn ac mae nifer o fenterau mewn lle i sicrhau fod y gymuned LHDT yn derbyn y gefnogaeth a’r arweiniad maent angen.”

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynychu neu gyfrannu gysylltu â Shaun ar shevanspask@cardiff.gov.uk neu ffonio: 07800 572600.

Os hoffet wybod mwy am Mis Hanes LHDT yna plîs ymwela â’r wefan hwn http://www.lgbthistorymonth.org.uk/aboutus/main.htm

Newyddion » Proffil: Loud & Proud

Sefydliadau » Loud and Proud: Cardiff LGBT Youth Provision

Gwybodaeth » Teulu a Pherthnasau » Bod mewn Perthynas » Perthnasoedd o'r un rhyw

Gwybodaeth » Teulu a Pherthnasau » Beth i'w wneud os bydd rhywbeth yn mynd o chwith » Gwahaniaethu
 

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.