Welcome to The Sprout! Please sign up or login

EisteddFlog: Dydd 4 Blog 2

Posted by dirty from Cardiff - Published on 03/06/2011 at 10:35
1 comments » - Tagged as Culture, Festivals

English version

Yr wythnos hon, mae CLIC yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd yn Abertawe. Bob dydd, bydd un o'n hysgrifenwyr yn rhannu ei brofiad o'r ŵyl. Dyma fydd Eisteddflogiau'r Urdd a dyma dirty yn blogio ar y pedwerydd diwrnod…

Roedd dydd Iau Eisteddfod yr Urdd Abertawe yn un llawn amrywiaeth o ddigwyddiadau yn benodol i ddelio gyda phobl ifanc ac i bobl ifanc yn eu harddegau.

Felly, dyma oedd y peth cyntaf amlwg ar gychwyn y dydd cafodd ei farcio gyda chynhadledd i'r wasg lle'r oedd y cadeiryddion yn siarad am beth oedd i yn digwydd y diwrnod hwnnw.

Roedd llawer o bethau ar yr agenda, o ledaenu darpariaeth gweithgareddau fel y Wobr Dug Caeredin i'r cyfrwng Cymraeg, gwybodaeth ar amryw weithgareddau ac yn fwy pwysig, Cadair y Bardd.

Mae'r Gadair, i'r rhai ohonoch sydd ddim yn gwybod, yn prif symbol y traddodiad rydym yn ei adnabod nawr fel yr Eisteddfod ble mae bardd yn cael ei goroni yn fardd yr Eisteddfod. Mae gwreiddiau'r Eisteddfod yn mynd yn ôl i'r diwylliant Derwydd gwreiddiol a bob blwyddyn mae cadair wahanol yn cael ei chreu.

Mae'r gadair eleni wedi ei gwneud o goed onnen leol o ardal Abertawe ac mae'n ymgorffori delweddau a theimladau'r ddinas; er esiampl, cafodd copr ei ddefnyddio drwy'r gadair, yn cyfeirio at orffennol diwydiannol Abertawe.

Mewn ychwanegiad, roedd y pren wedi cael ei lunio'n debyg i donnau mewn rhai llefydd i roi teimlad o'r arfordir a'r harbwr. Nid oes rhaid dweud, mae'r Gadair yn chwarae rhan fawr, ac yn enwedig heddiw ar ddiwrnod pan gafodd y bardd ei enwi fel Llŷr Gwyn Lewis, sydd wedi derbyn ei radd baglor o Brifysgol Caerdydd a gradd meistr o Rydychen.

Gyda'r haul canol dydd hyrwyddom CLIC yn yr Eisteddfod, yn rhoi eitemau fel beiros, CLICzines a bathodynnau allan, ynghyd â siarad gyda phobl ifanc am beth rydym yn ei wneud. Roedd nifer gyda diddordeb mawr ac yn cymryd manylion cyswllt eu cylchgronau rhanbarthol .

Roedd yr ŵyl yn fyw gyda gweithgaredd dynol, canu, dawnsio, perfformiadau, ac y mwy o bobl roeddem yn cyfarfod, y mwy roeddem yn cyfarfod oedd efo diddordeb mewn agweddau o'r cyfryngau a sut i gymryd rhan yn benodol efo CLIC.

Er hynny, roedd dal amser am ychydig o hwyl. Bu Sam ac Arielle yn rhoi tro ar ychydig o ddawnsio America Lladin o'r enw 'Zumba' (paid poeni, mae darn o ffilm yn bodoli!) a llwyddais i ymweld â stondin Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yr amgueddfa sydd yn seiliedig yn Aberystwyth, lle'r oedd arddangosfa o luniau o'r oes mwyngloddio.

Roedd llawer o sefydliadau eraill wedi amlygu eu hunain yn yr Urdd, fel y Brifysgol Agored sydd nawr yn cynnig cyrsiau byr sydd yn cael eu henwi yn briodol iawn yn 'Cyrsiau Byr'. Roedd y cyrsiau hyn yn cael eu hesbonio fel 'pontio'r' bwlch rhwng Lefel A a Lefel Gradd.

Roedd gwasanaethau fel 101, yr heddlu ac Ambiwlans Sant Ioan (St.John's) i gyd yno ochr yn ochr â phethau sydd yn draddodiadol yn fwy o 'hwyl' fel y ffair a'r stondinau bwyd oedd yn cynnig amrywiaeth o fwyd o fwyd Cymraeg traddodiadol i fwydydd Indiaid a Tsieinëeg.

Heb amheuaeth roedd heddiw efo llawer mwy yn digwydd nag ar unrhyw ddiwrnod arall, ac nid heddiw ydy uchafbwynt yr ŵyl hyd yn oed.

EISTEDDFLOGIAU
Dydd 1 Blog 1
Dydd 1 Blog 2
Dydd 2 Blog 1
Dydd 2 Blog 2
Dydd 3 Blog 1
Dydd 3 Blog 2
Dydd 4 Blog 1

1 CommentPost a comment

CLICtania

CLICtania

Commented 11 months ago - 3rd June 2011 - 10:55am

Da iawn Yasmin am gyflwyno yn Gymraeg, efallai bod yna yrfa i ti ar S4C :O)

Wedi mwynhau darllen am y gadair hefyd. Diddorol iawn, diolch.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.