Gareth Thomas Yn Dod Allan
Mae’r erthygl ganlynol gyda chyfweliad fideo ar gael ar Wales Online.
Mae penderfyniad Gareth Thomas i siarad yn gyhoeddus am ei wrywgydiaeth wedi ei wneud y chwaraewr rygbi proffesiynol cyntaf hoyw sydd yn hollol agored. Nawr fod pethau yn dechrau tawelu wedi’r amlygiad a synnodd nifer yn y byd chwaraeon, dywedodd cyn capten Cymru wrth Delme Parfitt pam ei fod yn teimlo mai hwn oedd yr amser priodol i ddod allan – a sut ymateb cafodd y rhai agosaf ato i’r newyddion.
Roedd Gareth Thomas efo golwg dyn oedd, o’r diwedd, yn cael teimlad o heddwch ynddo’i hun wrth iddo ymlacio yn ei fwthyn ym mhentref St Brides Major yn Fro Morgannwg ddoe.
Efallai fod Gleision Caerdydd wedi colli’r gêm Gwpan Heineken yn Toulouse y diwrnod cynt, ond i’r dyn sydd yn cael ei adnabod yn gyffredinol fel Alfie, mae’r diwrnod, y penwythnos llawn, wedi golygu cymaint mwy.
Roedd ei benderfyniad i fynd yn gyhoeddus am ei rywioldeb yn sefyll ar frig nifer fawr o agendau newyddion, gan ei fod yn anghyffredin i ddyn chwaraeon proffesiynol wneud hyn daeth yn bwnc testun dros y byd i gyd.
Ond, wrth iddo ymuno â’i ffrindiau yn nhîm y Gleision am gyfarfod Nadolig un amser cinio, dywedodd Thomas wrthyf nad oedd yn difaru o gwbl am ei benderfyniad i ddod allan.
Nid yn unig fod ymateb y cyhoedd yn y 24 awr ddilynol wedi codi ei galon, ond mynnodd yr unig ddyn sydd wedi ennill 100 cap i Gymru ei fod wedi amseru’r cyhoeddiad yn gywir a'i fod yn edrych ymlaen at yr amser sydd ganddo ar ôl yn y gêm a’i ddyfodol hirdymor wedi’i adnewyddu.
Mae ôl-olwg yn beth gwych ac os byddem i gyd efo hyn ynghynt yna mae’n debygol byddem yn byw ein bywydau yn wahanol,” meddai Thomas.
“Ond roedd amseru hyn yn gywir i mi.
“Y bobl o’m nghwmpas oedd y rhai oeddwn gyda ffydd y byddent yn ei wneud yn y ffordd iawn. Ac mae’r tîm dwi’n chwarae iddynt yn amgylchedd dwi’n hollol gyffyrddus ynddo.
“Byddwn i wedi bod yn gyffyrddus yn mynd yn ôl i wynebu fy mêts tîm y Gleision pa un ai byddai’r ymateb wedi bod yn bositif neu’n negyddol, ac felly roedd yr amseru yn hollol iawn.
“Mae rhan ohonof yn dweud byddai wedi bod yn dda gwneud hyn pedwar neu bum mlynedd yn ôl.
“A fyddai eu hymateb wedi bod yr un peth yr adeg honno? Dwi ddim yn gwybod.
“Y peth dwi'n ei wybod ydy fod yr ymateb yn bositif nawr, a'r neges rwyf i yn ei roi allan ydy fod os oes plentyn 18 oed allan yna sydd eisiau gwneud o, a chwarae rygbi ar yr un adeg yna mi fedran. Dwi wedi profi fod o’n bosib. Mae’r byd yn le gwell y dyddiau hyn i mi a gobeithio gallaf helpu ei wneud yn le gwell i rywun arall. Dwi’n teimlo fod pwysau mawr wedi codi oddi arnaf, dwi wirioneddol yn.
“Fy mhryderon i oedd ymateb pobl. Fel dyn chwaraeon adnabyddus roeddwn i’n gwybod fod dod allan efo hyn yn mynd i olygu fod fy mywyd yn mynd i fod yn bwnc lot o farn gyhoeddus ac roedd hynny yn fy mhoeni.
“Nawr dwi’n sylweddoli fod pobl yn edrych arnat ti am dy lwyddiannau, nid am beth wyt ti yn ei wneud yn dy fywyd personol."
Mae nifer o ffrindiau Thomas yn nhîm Cymru yn ogystal â’r Gleision wedi gwybod am beth amser fod eu ffrind yn hoyw.
Fe wnaeth Thomas, 35 oed, yn sicr fod ei gydweithwyr presennol i gyd yn gwybod cyn i unrhyw bapur newydd gael gwybod.
Mae Thomas yn dweud ei fod nawr yn bwnc llawer o’r tynnu coes sydd yn cael ei dderbyn fel rhan o’r hwyl rhwng ffrindiau tîm yn yr amgylchedd rygbi.
Ac fe fynnodd nad oes mymryn o homoffobia yn yr ystafell newid, dim ond hwyl chwarae, ac mae’n falch nad oes rhaid i neb deimlo eu bod yn gorfod bod yn ofalus o beth maen nhw'n ei ddweud o’i flaen o hyn ymlaen.
Mae’n esbonio: “Y chwaraewyr oedd y cyntaf i ffeindio allan ac fe wnes yn sicr o hynny gan fod hawl ganddynt wybod am eu bod yn ffrindiau tîm i mi.
“Roedd eu hymateb yn grêt, roeddent yn gwbl gefnogol ohono i, yn dweud, ‘y ffordd wyt ti fel person ydy beth rydym ni’n caru amdanat ti a ni newidith hynny’.
“A dyna pam dwi’n caru bod efo’r Gleision.
“Dwi’n falch fod y pwnc ddim yn dabŵ bellach rhwng y sgwad.
“Fel esiampl pan oeddem yn dychwelyd o Toulouse dydd Sadwrn roeddem wedi cael llwyth o ganiau cwrw ar y bys.
“Roedd Xavier Rush yn ceisio cael ni i gyd i gael diod a doedd yr un ohonom eisiau un.
“Yna dywedodd ‘dewch, y criw o ffagots cymerwch ddiod!’
“Ac yna’n sydyn dywedodd, ‘O, sori Alf!’
“Roedden ni i gyd yn chwerthin am y peth. Yn sydyn nid oedd yn bwnc roedd pobl yn meddwl oedd rhaid osgoi. Mae popeth allan yn yr agored ac yn rhywbeth gallem gael hwyl efo.
“Dyna’n syml ydy amgylchedd rygbi, ti’n gallu cymryd pwnc fel hyn a chael hwyl amdano yn gwybod ei fod yn gwbl ddiniwed.
“I ddweud y gwir, fe ddwedais wrth Nugget (Martyn Williams) yn gynharach yn y dydd os byddai’r wasg yn gofyn iddo am fy stori roedd rhaid iddo wneud jôc am y crysau pinc.
“’Rhaid i ti wneud o, byt,’” dywedais.
“Gwenodd a dweud, ‘Fedra i ddim dweud hynna. Medraf?’
“Dywedais i: ‘Mae’n rhaid i ti.’
“Mae’n dangos pa mor grêt ydy’r amgylchedd yn y sgwad nawr.
“A chyn belled â phobl gyffredinol ar y stryd, mae popeth wedi bod yn anhygoel.
“Mae’n profi’r pwynt dwi eisiau gwneud i eraill fod hyn yn amser pam mae gwneud rhywbeth fel hyn yn bosib, mae’n cael ei dderbyn.”
Gwrthododd Thomas y si ei fod unwaith wedi gwneud cyhoeddiad mawr am fod yn hoyw i sgwad Cymru i gyd.
Yn hytrach, ar ôl dweud wrth yr is-hyfforddwr ar yr adeg, Scott Johnson, ymddiriedodd hwnnw yn Martyn Williams a Stephen Jones, credai Thomas fod y newyddion wedi hidlo yn ddistaw rhwng y sgwad.
“Nid fi ddewisodd Nugget a Stephen Jones, Johnno wnaeth,” meddai. “Dwi’n meddwl fod Nugget a Stephen wedi hidlo’r newyddion o gwmpas gan deimlais gefnogaeth y sgwad yn dwysau yn syth.
“Lol oedd y stori fy mod wedi gwneud cyhoeddiad mawr i’r sgwad Cymru – dyna ti’r math o sibrwd Tsieineaidd oedd yn mynd o gwmpas Cymru ar yr adeg.”
Tra bod Thomas wedi cael hwb o’r gefnogaeth a’r edmygedd am ei ddewrder ymysg y cyhoedd, mae’n credu y byddai, mewn amser, yn dal i orfod wynebu'r rhai cul eu meddyliau.
Ond, mae’n benderfynol peidio ymateb i unrhyw brofoci maleisus.
Ac mae’r ffaith ei fod wedi rhoi ei neges allan yn gysylltiedig ag elusen NSPCC Childline yn ei wneud yn bwysicach byth iddo.
“Y peth anodd ydy dy fod yn gallu cael miloedd o ymatebion da ac un drwg, ond am ryw reswm yr un drwg sydd yn aros efo ti,” meddai.
“Ar un drwg yna sydd yn cael ei glywed gan y rhan fwyaf o bobl eraill.
“Ar ôl chwarae rygbi ac wedi cael fy marnu a fy nghanmol dros y blynyddoedd, dwi’n gwybod sut beth ydy o mewn ffordd ac mae’n rhan o beth rydw i’n ei wneud.
“Os dwi’n onest dwi ddim yn disgwyl cael clod gan bawb am hyn. Dwi’n disgwyl bydd sylwadau negyddol.
“Ond yr unig neges dwi’n fodlon ei roi ydy un positif, dwi ddim am ymateb yn negyddol na gyrru negeseuon negyddol allan.
“Os gaf i sylwadau drwg yna bydd rhaid i mi ddelio gyda nhw fy hun a dyna ydy rhan o’r cytundeb yn hyn i gyd.
“Es i mewn i hyn yn gwbl lygad agored, dwi’n gwybod yn iawn beth gall ddod fy ffordd i mewn sefyllfa benodol ond dwi’n barod am hynny. Yr unig beth rydw i’n ei boeni am ydy fod y negeseuon dwi’n rhoi yn rai positif.
“Gall pobl weiddi arna i o’r stand os maen nhw’n teimlo eu bod eisiau, ond yr unig beth rydw i’n poeni am ydy mai’r bobl sydd yn fy ngharu, fy ffrindiau a fy nheulu, ydy’r rhai sy’n bwysig.
“Ac yndi, mae fy nheulu yn gwbl gefnogol ohonof.”
Er hyn, mae teulu Thomas wedi wynebu sialensiau eu hunain yn y cyfnod hwn.
Cyfaddefodd fod dod i dermau gyda’i rywioldeb ddim yn rhywbeth ddigwyddodd dros nos i’w fam a’i dad, Yvonne a Barry, a'i frodyr Dicky a Stephen.
“Nid yw wedi bod yn hawdd i ni i gyd i gyrraedd y pwynt yma ,” meddai Thomas.
“Ar ddiwedd y dydd mae fy nheulu i gyd efo bywydau i fyw hefyd, ac maen nhw’n gorfod mynd i’r gwaith bob dydd fel pawb arall.
“Mae fy nhad yn gorfod mynd i’r gwaith mewn amgylchedd gyda nifer o ddynion yn y Swyddfa Bost. Mae mam a’m mrodyr yn gorfod delio efo fo yn eu bywydau nhw hefyd.
“Wrth gwrs maen nhw wedi fy nerbyn i beth bynnag ydy’r achos, ond roedd yno broses ynddyn nhw’n derbyn eu bod yn gorfod delio gyda hyn hefyd, efo’r sylwadau negyddol os deuant nhw.
“Ond rydym i gyd wedi dod drwy’r broses yno efo’n gilydd am ein bod yn deulu agos.
“Ei agwedd nhw ydy bydd y sylwadau negyddol yn mynd a dod, ond mae’r rhai positif yn mynd i aros gyda nhw.”
Mae’r cysylltiad gyda Childline yn un wirioneddol bwysig i Thomas.
Mae’n dweud os byddai yn gwybod mwy am ei fodolaeth pam roedd yn brwydro i ddod i dermau gyda bod yn hoyw yn ei arddegau hwyr, byddai wedi bod yn ffynhonnell cymorth hanfodol.
Mae wedi cyfaddef fod ganddo deimladau hunan ladd pam roedd o yn isel iawn, yn dweud byddai’n myfyrio ei sefyllfa wrth gerdded i ymylon creigiau ger traeth Southerndown, ddim yn bell o’i gartref.
Mae Thomas eisiau i eraill sydd yn y sefyllfa honno i wybod nad oes rhaid iddynt deimlo ar ben eu hunain nag efo cywilydd ohonynt eu hunain.
Esboniodd: “Gyda’r stori yma yn dod allan roeddwn eisiau cynnwys yr NSPCC, sydd yn elusen wych yn fy marn i.
“Mae nifer fawr o’r rhai sydd yn ffonio Childline yn blant, a'r mwyafrif yn fechgyn ifanc sydd yn ffonio i siarad am eu rhywioldeb.
“Byddwn i wedi bod ofn pigo’r ffôn i fyny i siarad amdano pam oeddwn i'r un oed.
“A pam dwi’n deud plentyn, dwi’n golygu arddegau hwyr, yr adeg o dy fywyd pam ti ddim yn gwybod beth sydd o dy flaen na ble mae pethau yn mynd i arwain.
“Efallai na fyddai wedi newid y ffordd dwi wedi byw fy mywyd, ond i gael rhywun i siarad efo bydd yn deall a ddim yn barnu ti, gall, dwi’n meddwl, wneud gwahaniaeth rhwng byw a marw.
“Dyna pa mor fawr ydy hyn.
“Os byddwn i wedi sylweddoli fod Childline yno 20 mlynedd yn ôl byddai wedi helpu fi.
“Dwi’n deall pam fod pobl ifanc ofn oherwydd roeddwn i ofn fy hun.
“Felly drwy wneud hyn i gyd mae’n beth gwych a gwerthfawr i fod yn rhan ohono.
“Yr holl bwynt o’r neges hwn ydy ei fod yn fwy na fi ac yn fwy na rygbi.
“Mae’n fwy na chwaraeon yn gyffredinol.”
Felly beth nawr yn stori Gareth Thomas.
Wel, ar ôl ychydig mwy dyddiau yn rhannu ei neges gyda’r cyfryngau, yr unig beth mae eisiau ydy cael yn ôl i’r busnes o orffen ei yrfa chwaraeon efo’r Gleision ac yna yn ymchwilio i mewn i gyfleoedd pellach i aros mewn gêm sydd, meddai ef, “yn fy ngwaed”.
Parhaodd: “Cyn belled ag y mae fy rhagolwg ar weddill fy ngyrfa yn y cwestiwn, dydy’r cyhoeddiad yma yn newid dim.
“Bob diwrnod dwi eisiau rhoi fy esgidiau ymlaen, dwi eisiau hyfforddi a dwi eisiau mwynhau fy rygbi.
“Dwi eisiau aros yn ymglymedig â rygbi, dwi wedi cael fy ngeni i wneud hyn.
“Dwi eisiau parhau i gael dylanwad ar y gêm gan ei fod yn fy ngwaed.
“Byddwn wrth fy modd yn mynd ymhellach yn y gêm a chael i mewn i hyfforddiant.
“Ond fe gymerai popeth gam wrth gam.
“Y peth mawr i mi nawr ydy ffocysu ar fod yn rhan o’r Gleision a chael ail ran fawr o’r tymor.
“Mae gennym ni chwaraewyr grêt ac mae lot o bethau y dylem ni fod yn cyflawni a dwi eisiau bod yn rhan o hynny.
“Byddem i gyd yn dod at ein gilydd ac yn gwneud ein gorau i sicrhau fod y tymor hwn yn llwyddiant i ni.
“I mi, byddai gwneud unrhyw beth gwahanol yn tynnu o’r neges.
“Dwi eisiau parhau i chwarae mor galed ac y gallaf i mi, i’r tîm ac i’r cefnogwyr sydd yn mynd i wylio. Dyna sydd yn rhaid digwydd.
“I mi mae hyn i gyd wedi cael ei ddelio â nawr.
“A dyna ni, nid oes llawer mwy i ddeud.”
Mae Childline yno i siarad gyda phlant a phobl ifanc am unrhyw broblem ar 0800 1111 neu www.childline.org.uk. Gwybodaeth ar berthnasau o'r un rhyw yma.







