Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Gwahardd Y Burqa?

Posted by dirty from Cardiff - Published on 03/08/2010 at 11:02
0 comments » - Tagged as Culture, People, Topical

  • burqa

English version

Wedi sawl mis o ddadlau, mae’r burqa wedi cael ei wahardd yn unfrydol yn Nhai Cyffredin Ffrainc.

Chwe blynedd wedi’r gwaharddiad symbolau crefyddol yn Ffrainc oedd yn gwahardd bob symbol crefyddol yn ysgolion gwladwriaeth Ffrainc, gwaharddwyd y cap corun Iddewig,  croesluniau Cristnogol a’r twrban Sikhaidd, ymysg amrediad eraill o symbolau crefyddol.

Adroddir fod llywydd Ffrainc, Nicholas Sarkozy, wedi dweud , “Nid oes croeso i’r burqa yn Ffrainc”.

Mae hyd at 10 y cant o boblogaeth Ffrainc yn Fwslim sydd yn ei wneud yr ail grefydd fwyaf yn Ffrainc ar ôl Cristnogaeth. Yn gwreiddio o’r gwladfeydd Ffrengig oedd yn arfer bod yng Ngogledd Affrig, poblogaeth ethnig y Maghrebi.

Mae Ffrainc wedi bod yn wlad seciwlar ffyrnig erioed, wedi’r chwildro Ffrengig yn yr ail ar bymtheg ganrif fu’n gyfrifol am smentio’r hunaniaeth genedlaethol a chicio’r eglwys allan o ymyrryd ar y wlad.

Er cymuned mawr ethnig Mwslim Ffrainc, nid oes hunaniaeth ‘Mwslim Ffrangeg’ wedi cael ei lunio yn annhebyg i hunaniaeth Asiaidd Brydeinig sydd yn amlwg iawn mewn cerddoriaeth a diwylliant, gyda bandiau fel Panjabi MC a rhaglenni fel Goodness Gracious Me.

Mae perthnasau hiliol wedi bod yn anodd yn Ffrainc erioed, mor ddiweddar â 2005 bu reiat yn digwydd oherwydd nifer o ffactorau wedi’i achosi gan hiliaeth, senoffobia a chyfradd diweithdra uchel ymysg ieuenctid ethnig trefol.

“Nid yw’n symbol crefyddol… Yn ein gwlad ni i all derbyn carcharwyr benywaidd  tu ôl i sgrin, ar wahân i fywyd cymdeithasol i gyd, yn amddifadus o hunaniaeth a rhyddid”. I raddau, dwi’n cytuno gyda Sarkozy.

Nid oes sôn am y burqa yn y Qur’an, ond yn ddiweddar mae senoffobia Gorllewin Ewrop , a’r Dwyrain ar y cyfan, tuag at symbolau Islam ac Islam ei hun yn cael ei farnu.

Y Ddadl Cartwnau

Y Cartwnau Daneg. Y gwaharddiad minarét. Oeddet ti’n gwybod fod mwy o finaréts ar boster (sydd gyda llaw wedi cael eu siapio fel taflegrau yn saethu am ei fyny) yr ymgyrch gwrth-minarét  yn arwain at y refferendwm yn 2009 nag yr oes yn y Swistir yn gyfan gwbl?

Mae minarét yn gymaint o ran o’r mosg ag y mae’r meindwr i’r eglwys a'r gromen i’r synagog. Ni allaf helpu meddwl os byddai gwaharddiad wedi cael ei roi ar fannau addoli Iddewig, yna byddai’r byd yn ystyried hyn yn syth fel bod yn wrth-semitig,  ond yn yr hinsawdd ddiweddar o ‘War on Terror’, mae unrhyw beth yn dderbyniol.

Yn wir, gall yr un peth cael ei ddweud am y cartwnau Daneg, ond ar un llaw mae rhyddid araith, ac yna mae yna fynd allan ar bwrpas i dramgwyddo grŵp lleiafrifol sydd yn orthrymedig yn barod.

Mae gen ti ryddid araith, ac yna mae gen ti bod yn hurtyn. Ni fyddet yn gwneud llyn o Abraham yn edrych fel terfysgwr ac yna cyhoeddi ef; mae hynna yn sarhaus iawn i Iddewiaeth, lle fel Islam (y ddau fel crefydd Abrahamig monotheistig) maent yn gwahardd  gwneud lluniau o ‘dduwiau’.

Roedd y ddadl cartwnau Daneg nid yn unig yn gamarweiniol ac yn rhagfarnllyd, roedd yn ffordd o gael cyhoeddusrwydd.

Dyma’r math o feddylfryd mae’r gwaharddiad burqa yn dod yn rhan ohono, ac mor ddiweddar â’r 20fed o Orffennaf roedd Sbaen yn edrych ar wahardd y burqa gan ei fod yn “symbol o eithafiaeth”.

Cychwyn y Burqa

Am bob person sydd yn gwrthwynebu’r  gorchudd mewn unrhyw ffurf, edrycha ar beth o’r gelf Gristnogol draddodiadol; beth mae Mair yn ei wisgo o amgylch ei phen ym mhob un llyn? Mae’n draddodiad Dwyreiniol Canol, a hyd yn oed heddiw mae merched Uniongred Iddewig yn gorchuddio eu gwallt am yr un rhesymau mae merched Mwslim, ond mae’r marched Iddewig yn gwisgo wig.

Nid wyf i yn gwisgo’r burqa. Yn bresennol nid oes neb yn fy nheulu yn gwisgo’r burqa, ond pam oedd fy mam-gu yn byw yn Pacistan, roedd hi’n ei wisgo, a fy modryb i gyd hefyd. Dwi ddim yn ei wisgo a dwi ddim yn meddwl ei fod yn angenrheidiol, ond dwi’n credu y dylai’r rhai sydd yn gwisgo’r burqa gael eu hamddiffyn yn erbyn senoffobia.

Ond nid oes golwg o’r burqa yn unlle yn y ffydd Islamaidd; mae’n ddehongliad o’r surah ar wyleidd-dra a sut y dylai chwaer Mwslim wisgo yng nghwmni eraill. Mae rhai yn dehongli hyn fel gwisgo burqa neu beth bynnag.

Yn Surah 24:31 (Ayah) mae’n dweud y dylai merched amddiffyn eu “…addurniadau ac eithrio beth sydd yn rhaid ymddangos fel rheol o hynny y dylai nhw dynnu eu gorchudd dros eu bronnau a ddim arddangos eu harddwch”,

Pam? Mae’n cael ei esbonio yn Ayah 59:

“O Broffwyd! Dweud Wrth Dy wreigiau A’th ferched, a’r merched sy’n Credu, y dylai Nhw daflu eu dilledyn Allanol dros Eu Person (pam y tu allan): Fel y dylai nhw gael eu hadnabod (Fel hynny) a ddim cael eu Molestu.”

Derbynnir y gallai hyn fod yn wyleidd-dra. Gwyleidd-dra plaen. Mae Asma Hassan a Irshad Manji, y ddau yn ysgrifenwyr Mwslim, wedi dweud eu bod yn meddwl fod ‘gwyleidd-dra yn dod oddi fewn i ti’. Gall ddadlau fod y dehongliad fwyaf eithafol ohono wedi dod i’r amlwg ar ôl yr oes Bedowin o’r Saudi Arabia modern, lle'r oedd merched yn un ai'n ddi-bŵer neu gydag ychydig iawn o bŵer.

Roedd yn adnabyddus iawn fod y merched pagan o Mecca yn dangos eu bronnau yn gyhoeddus heb gywilydd (heb sôn am y treisio a llygredd rhywiol oedd yn digwydd yng nghymdeithas Bedowin cyn-Islamaidd); yn sicr gall y burqa gael ei ddehongli fel gwahaniaethiad corfforol uniongyrchol i ddangos eu bod yn Fwslim.

Er sylweddola, ni wisgodd yr un o wragedd y Proffwyd Muhammad yr hijab a dim ond yn ystod teyrnasiad Cakiphate Abbasid cyflwynwyd y gorchudd wyneb llawn, tua 120 mlynedd wedi marwolaeth  Muhammad. Golygai hyn pan gafodd Islam ei gyflwyno i’r byd, doedd y burqa ddim yn bodoli yn amser Muhammad.

Ffyniant y Burqa

Mewn nifer o gymdeithasau Mwslim, yn y traddodiadol Asia De Ddwyrain a’r is gyfandir Asiaidd neu ar dir Bedowin, mae gorchudd hwyneb i ferched yn un ai’n brin neu ddim yn bodoli; yn wrthfynegiad i hyn, mae ffwndamentaliaeth fodern yn ei gyflwyno.

Mae’r un peth yn wir am yr hijab, e.e. yn yr Aifft ôl trefedigaethol, yn sgil y rhyddhad o Brydain cychwynnodd marched wisgo’r hijab. Mae’r un peth yn wir am Iran pan ddigwyddodd y Chwyldro Islamaidd gyda merched yn ymdeithio yn eu miloedd yn erbyn gwisgo’r hijab (sydd nawr yn orfodol).

Tra maent yn symbolau o Islam, nid ydynt yn orfodol, peth diwylliannol ydyw fel mae’r Qur’an yn ei ddweud: gostwng golwg,  bod yn ddiymhongar a ddim yn tynnu sylw at eich hun.

Mae rhai merched Mwslim dwi wedi siarad gyda nhw yn ei weld yn eironig fod tra mae democratiaeth Orllewinol yn caniatáu i ferched gerdded o gwmpas mewn dillad dadlennol, mewn cyfandir lle mae pornograffi ar gael yn hawdd a merched yn cael eu defnyddio i werthu popeth o geir i fwyd ac yn cael eu ‘ecsbloetio’ yn glir drwy ddefnyddio apêl rywiol, mai rhywun sydd eisiau cadw eu gwyleidd-dra sydd yn cael eu beirniadu.

Mewn ffordd, gall y burqa gael ei ddehongli fel symbol o ffeministiaeth radical e.e. “Ni fyddaf yn cael fy ngwrthrychu fel merch ac rwyf yn teimlo mor gryf amdano fel fy mod am wisgo rhywbeth sydd yn fy ngorchuddio o fy ngoryn i’n sawdl fel na fedri di wneud hyn”. Mae’r un peth yn wir am wisg merched Gorllewinol, fel sgertiau bychan a bŵb tiwb.

Wedi cannoedd o flynyddoedd o batriarchaeth orfodol a merched yn cael eu categoreiddio i unai ‘yr hwren’ neu’r wyryfol’ ar ôl dylanwad anferth diymwad y Beibl ar Brydain; nid beth ydynt ydy dillad, ond beth maent yn cynrychioli.

Pwyntiau Sgorio Gwleidyddol

Edrychwyd ar Jack Straw am ei sylwadau fel gofyn i ferched dynnu eu burqa neu nikah wrth siarad gydag ef a'i fod yn “poeni am oblygiad gwahaniad”, Roedd Blair, y Prif Weinidog ar y pryd yn ei alw’n “farc gwahaniad” a daeth Brown allan yn cefnogi’r ddau ddyn oedd yn barnu’r gorchuddiad.

Efallai y bydd bysedd yn pwyntio tuag at Ffrainc am ei senoffobia yn erbyn Mwslimaidd sydd yn dod mewn amser lle mae nifer yn gwrthwynebu  mosg anferth sydd yn cael ei adeiladu yng nghanol Marseille, tref sydd ddim wedi cael Mosg iawn ers cannoedd o flynyddoedd, os erioed.

Mae Syria hefyd wedi gwahardd y gorchudd wyneb llawn mewn prifysgolion, arwyddocâd fod y wlad Dwyrain-Canol yn dod yn fwy ceidwadol ac yn gorfodi ei secwlariaeth lem ar led, yn debyg i Ffrainc.

Y gwahaniaeth ydy fod grwpiau gwleidyddol mawr adain dde eithaf fel y National Front yn Ffrainc, a wnaeth yn dda yn yr etholiadau rhanbarthol yn fis Mawrth eleni drwy ennill 12% o’r bleidlais, yn defnyddio’r rhagfarn sydd gan bobl yn gyffredinol am Fwslemiaid a grwpiau lleiafrifol at eu helw.

Mae Ffrainc a Gwlad Belg wedi’i wahardd.  Mae Denmarc eisiau ei wahardd. Mae Sbaen yn edrych i mewn i’r peth wrth i ni siarad. Mae Prydain wedi dweud na fyddai, ond mae’r pleidiau adain dde eithafol eisiau cael gwared ohono. Mae’n edrych yn ddu iawn i rywbeth mor syml â darn o ddefnydd sydd yn gorchuddio corff ac wyneb rhywun.

Adran gwybodaeth ar grefydd

DELWEDD: Austcare

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.