Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Lansiad Gwobrau Ysbrydoli

Posted by Sam (Sub-Editor) from Cardiff - Published on 15/09/2010 at 15:49
0 comments » - Tagged as Education, People

English version

Mae’r tîm Caerdydd Yn Erbyn Bwlio angen dy help yn cydnabod y rhai sydd wedi helpu eraill.

Wyt ti’n adnabod rhywun sydd wedi gwella bywyd unrhyw un sydd wedi dioddef bwlio? Os felly mae’r t6im Caerdydd Yn Erbyn Bwlio eisiau clywed gennyt ti.

Mae’r tîm wedi lansio’r Gwobrau Ysbrydoli i wobrwyo’r rhai sydd wedi gwneud gwahaniaeth i berson arall drwy weithred o garedigrwydd. Yn Dathlu’r plant, pobl ifanc neu oedolion sydd wedi cael y dewrder i sefyll i fyny a bod yn gyfaill i eraill sydd wedi cael eu bwlio.

Mae’n hawdd enwebu rhywun ti’n teimlo sydd wedi gwneud gwahaniaeth, yn syml ymwela â’r wefan a chlicia ar Wobrau Ysbrydoli.

Dyddiad cau ceisiadau ydy Hydref 22 a bydd enwebiadau yn cael eu derbyn gan gyfoed, staff dysgu ac fel arall ynghyd â phobl broffesiynol sydd yn gweithio ochr yn ochr gyda phlant a phobl ifanc. Bydd y rhai sydd yn cael eu henwebu yn gorfod bod yn byw neu’n gweithio yng Nghaerdydd.

Bydd y enwebon llwyddiannus yn cael eu gwobrwyo yn y Gwobrau Ysbrydoli ar 18 Tachwedd yng Nghastell Caerdydd.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, Cynghorydd Rodney Berman: “Hoffwn ddiolch tîm Caerdydd Yn Erbyn Bwlio am lansio’r Gwobrau Ysbrydoli. Mae’n wych fod y gwobrau yn dathlu'r rhai sydd wedi bod yn ddigon dewr i sefyll i fynnu a helpu’r rhai sydd yn dioddef o fwlio.

“Mae’r gwobrau yn atgyfnerthu’r neges fod bwlio yn annerbyniol a dwi’n gobeithio byddent yn annog eraill i helpu’r rhai sydd yn cael eu bwlio.”

Dywedodd y Cynghorydd Freda Salway, Aelod Gweithredol dros Ysgolion a Dysgu Gydol Oes: “Mae’r Gwobrau Ysbrydoli yn ffordd wych o gydnabod y rhai sydd yn helpu eraill. Ni ddylai, a ni fydd, bwlio yn cael ei goddef a bydd y gwobrau yn helpu ailadrodd y neges hon.”

Am wybodaeth bellach ymwela â gwefan Caerdydd Yn Erbyn Bwlio ac edrycha ar ein cyfeirlyfr tra ti wrthi.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.