Welcome to The Sprout! Please sign up or login

'Ni Ddylai' Genethod O Dan 16 Fodelu

Posted by Editorial from Cardiff - Published on 15/07/2007 at 14:53
0 comments » - Tagged as Fashion, Health

English version

Fe ddylai genethod o dan 16 gael eu gwahardd o frigdrawstiau (catwalks) Wythnos Ffasiwn Lundain, yn ôl ymchwiliad wedi’i orchymyn gan y diwydiant ffasiwn Prydeinig.

Mae’r Ymchwiliad Iechyd Model yn gwneud awgrymiadau i Wythnos Ffasiwn Lundain.

Dywedodd cadeirydd y panel, Barwnes Kingsmill ei fod yn “hollol amhriodol” fod genethod ifanc yn cael eu portreadu fel oedolion.

Mae’r sioeau ffasiwn fis Medi hefyd o dan bwysau gan y rhai sydd yn poeni am ddefnyddio merched tenau iawn mewn sioeau brigdrawstiau.

Galwodd y panel o arbenigwyr i’r Ymchwiliad Iechyd Model, gafodd ei greu i archwilio problemau iechyd ymysg modelau, am amddiffyniad gwell i rai 17 a 18 oed.

Ond penderfynwyd peidio pwyso bob model oherwydd roedd hyn wedi cael ei gysidro yn aneffeithiol mewn gwledydd eraill a gall fod yn wrthgynhyrchiol.

Mae’n parhau i gysidro pa un ai i gynghori fod Indecs Màs y Corff, neu gymhareb taldra/pwysau, modelau yn cael eu hedrych ar cyn iddynt gael eu cyflogi.

Mae hefyd yn amlygu’r angen i amddiffyn modelau mwy ifanc, ac yn galw am undeb i’r proffesiwn.

Dywedodd Barwnes Kingsmill: “roedd aelodau o’r panel yn dod yn fwy pryderus fel roeddem yn clywed mwy o fanylion am yr amodau gweithio sydd yn wynebu cymaint o fodelau a bod merched ifanc yn agored i niwed yn gweithio yn yr amgylchedd dadreoledig ac sydd brin yn cael ei fonitro.

“Rydym wedi derbyn tystiolaeth feddygol frawychus am y cyffredinrwydd a’r effaith o anhwylder bwyta mewn diwydiannau  risg mawr penodol..

“Roedd hefyd pryder wedi cael ei fynegi’n gryf ei fod yn hollol amhriodol fod merched o dan 16, o dan oed cydsynio, yn cael eu portreadu fel oedolion.

“Mae’r risg o rywioli’r plant yma yn uchel a bod dylunwyr yn risgio cael eu cyhuddo o ecsploetiaeth rywiol.”

Galwodd aelodau’r panel hefyd am astudiaeth wyddonol lym i mewn i’r cyffredinrwydd o anhwylder bwyta ymysg modelau ffasiwn.

Mae’r Cyngor Ffasiwn Prydeinig wedi dynodi y byddent yn derbyn awgrymiadau terfynol yr ymchwiliad pan fyddent yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi, mewn amser i’r Wythnos Ffasiwn Lundain nesaf sydd yn cael ei gynnal y mis hwnnw.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.