Rhegi: Fy Nadansoddiad
English version
(Fel person sydd ddim yn rhegi fel arfer efallai bydd rhaid i ti weithio efo fi ar hwn)
Rhegi.. y crynhoad o bopeth anghywir?
I fod yn onest, dwi erioed wedi hoffi rhegi, dwi’n tueddu i beidio ond dwi ddim yn cega ar y rhai sydd yn. Mae rhegi yn rhan o’r byd rydym yn byw ynddo, ta bwys pa mor anodd y mae unrhyw un ohonom yn trio ni all ei osgoi..
Mae’n siŵr mai’r tro cyntaf i mi wynebu mater yn ymwneud â rhegi oedd pan oeddwn yn blentyn.
Oedd unrhyw un ohonoch yn gwylio’r sioe Recess?
Roedd yn cael ei ddangos ar Sianel Disney ychydig flynyddoedd yn ôl nawr ond bydd yn parhau i aros yn fy atgofion fel bod yn un o’r cartwnau gorau erioed. Roedd cymeriad ar y sioe o’r enw TJ ac roedd yn amnewid rhegi gyda’r gair “wamps”. Ni welir dim o le gyda bachgen naw oed yn gweiddi’r gair bob pennod tan i Mrs Flinster, y monitor iard chwarae ddrwg-enwog flin, glywed beth oedd yn ei ddweud.
Roedd TJ yn cael ei orfodi i eistedd yn swyddfa’r prifathro tan iddo ymddiheuro am beth roedd wedi dweud, ond arhosodd TJ yn dawel. Ac fel byddai’r gynulleidfa yn disgwyl arhosodd yn ddistaw oherwydd ei fod yn ddieuog.
Parhaodd y bennod wrth i’r gair gael ei chwyddo a’i gymharu i‘r gair ogystal ddrwg “Dang!” (Dwi’n gwybod, ofnadwy ynte?) Daeth i’r pwynt lle cafodd TJ dreial am y gair anfad ac roedd ceisiadau i’w ddileu. Ond, unwaith dysgodd y barnwr y rheswm y tu ôl i’r treial chwarddodd a rhoi diwedd ar bopeth.
Moes y bennod hon?
I mi ei ystyr oedd mai dim ond geiriau rheg benodol (y rhai rydym yn gwgu tuag atynt) ydy'r unig rai “wirioneddol ddrwg” y rhai sydd yn achosi i chi gael eich syllu ar yn ASDA, os mai dim ond y rhai yno oedd mor ddrwg yna ni fyddai problem mewn amnewid y geiriau gyda rhai ein hunain, cywir?
Bwyd sydd yn amnewid poblogaidd gen i, geiriau fel “siwgr” a “ffyj” – maen nhw’n llithro o’r geg yn hawdd ac yn hidlo’r geiriau mae eraill fel arfer yn ei ddweud. Ond fel “wamps” ydy hi’n well i ddweud y geiriau hyn mewn gwirionedd pan gall ystyried yr ystyr fel bod yr un fath?
Os ydy, yna pan fod geiriau rheg ‘gwir’ yn parhau i gael eu gweld fel bod yn ddrwg?
Sail y peth yw, mae’r geiriau rydym yn ei ddefnyddio fel hyn yn eiriau melltith, yn cael eu defnyddio i ddangos emosiwn – siomedigaeth, rhyddhad, dicter, poen ayyb. Felly pam fod geiriau rheg yn cael eu barnu gymaint?
Mae’n rhaid bod pawb â hawl i ddweud beth maen nhw eisiau mewn gwlad siarad rydd?
Efallai nad yw’n ymweld fel hyn ond mae beth bynnag rydym yn ei ddweud i fentio ein hemosiwn fel hyn i gyd yn golygu’r un peth, yr un motif o geisio rhyddhau ein hemosiwn ar lafar.
Felly hyd yn oed os wyt ti’n dewis peidio rhegi – nid oes dim o le yn hyn, cywir?
Dywedodd rhywun wrthyf unwaith fod pobl sydd yn rhegi ddim yn gallu meddwl am eiriau eraill i ddefnyddio felly maent yn dewis y rhai sydd ar ben eu meddwl: geiriau rheg.
Dwi ddim yn meddwl ei fod yn beth ddeallus i ddefnyddio nhw bob yn ail air neu’n amnewid am sarhad. Mae defnyddio geiriau rheg yn y ffordd hynny yn profi’r pwynt nad all y defnyddiwr feddwl am eiriau eraill. Ond fel y dywedais cynt, dydy defnyddio nhw mewn ffordd i ddangos poen neu ddicter – ddim gwahanol i ddefnyddio geiriau dy hun, gan eu bod nhw’n golygu'r un peth.
Fy marn i ydy hyn, ond mae’n rhaid i mi wynebu’r cwestiwn: pam nad ydw i’n rhegi? Gan gysidro beth dwi newydd ei ddweud, fod defnyddio geiriau rheg yr un peth a defnyddio geiriau yn eu lle.
Un peth, mae geiriau rheg wedi bod o gwmpas am amser hir iawn mewn nifer ffurf ond maen nhw’n cael eu hadnabod yn syth gan bawb. Maen nhw’n fyd-eang hyd yn oed os byddwn yn eu dweud mewn iaith wahanol ac am y rheswm hwn bydd pawb yn gwybod be ti’n ddweud os ti’n ei ddweud. Efallai ei fod yn dibynnu os wyt ti’n poeni beth mae eraill yn ei feddwl, ond mae dweud nhw yn gallu cynhyrfu'r rhai o dy gwmpas dim ond am y ffordd maent yn swnio – a beth maen nhw yn feddwl.
Ydy mae hynna yn seithugio ac yn ddryslyd, ac efallai fy mod yn gorgymhlethu’r holl beth ond er popeth, bydd yna bobl sydd ddim yn licio geiriau rheg am byth oherwydd beth maent yn ei feddwl. Beth am y gair-F, all rhywun ddiffinio fo o ddifri – rhoi diffiniad iddo? Mae’r gair yn beth mae’n golygu, beth bynnag wyt ti eisiau iddo feddwl – a beth bynnag wyt ti eisiau iddo feddwl, byddai’n cynhyrfu rhywun.
Ym, ti’n deall fi?
Fel y dywedais cynt dwi ddim yn hoffi rhegi, ac wrth ystyried y pwynt cynt am amnewid y gair am un arall dwi dal ddim yn gyffyrddus yn defnyddio geiriau byddai’n achosi ffilm gael cyfradd 15. Ond, os ydy’r bobl o fy nghwmpas yn gyffyrddus efo geiriau penodol, gan gynnwys fy rhieni, dwi ddim yn gweld problem yn defnyddio’r geiriau hynny.
Mae’n ymddangos fel fy mod wedi hyfforddi fy hun ddim i ddefnyddio llawer o eiriau rheg, os o gwbl, o oedran ifanc. Dwy flynedd yn ôl dysgais fy hun i beidio cablu (blaspheme); dewis bywyd roeddwn yn teimlo’n fwy cyffyrddus gydag ef oedd hwn. Doedd neb wedi dweud wrthyf am wneud – penderfynais ei wneud. Mae’r un peth yn wir am regi, er fy mod wedi gwneud y penderfyniad yma tua dwy flynedd yn ôl hefyd (o gwmpas yr amser roedd pawb yn cychwyn blwyddyn saith ac os nad oeddet ti’n rhegi doeddet ti ddim yng nghŵl) llwyddais i gadw ati.
Mae’n fy nharo i fod y rhan fwyaf o raglenni neu sgetsh comedi gyda rhegi ynddynt, ac eto nid oes gen i broblem â hyn. Nid oes gen i broblem efo pobl sydd yn rhegi, dwi ddim yn poeni beth mae eraill yn ei ddweud ond dwi yn cynhyrfu pan mae eraill yn disgwyl i bawb o’u cwmpas regi hefyd.
Dwi ddim yn gwahardd pob gair rheg o fy ngeirfa – gan fod rhai yno am byth, rhai ydy’r unig opsiwn sydd gen ti am beth maen nhw yn diffinio. Ond os oes ail opsiwn, dyna’r ffordd i osgoi rhegi.
Rheol fi ydy os ydynt yn ei ddweud mewn ffilm 12A yna nid oes gen i broblem yn ei ddefnyddio.
Ydy, mae pethau yn newid wrth i ti dyfu ond am nawr mae geirfa yno nad oes rhaid ymyrryd ynddo.
Efallai fy mod i ar ei hôl hi a dwi’n sicr y byddaf yn newid fy marn mewn ychydig flynyddoedd, ond am nawr dyma fy esboniad cymysglyd iawn, ac anuniongred am pam nad ydw i’n rhegi ond pam nad oes gen i broblem efo fo.
O, *bîp*ia fo!







