Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Tenantiaid Yn Erbyn Asiantaethau Gosod: Rhybudd

Posted by neilramsden from Cardiff - Published on 25/08/2010 at 13:50
0 comments » - Tagged as Education, Environment

  • stair

English version


Cyflwyniad Is-Olygydd

Yma yn theSprout rydym yn hoff iawn o bobl yn rhannu eu profiadau, yn enwedig os ydynt yn cynnwys gwers dda ac yn rhoi cyngor am fywyd yng Nghaerdydd. Yn anffodus, mae rhaid i ni gael rhagofal rhag i ni gael ein siwio. Yn yr achos hwn, rydym wedi tynnu enw’r asiant gosod – er gall dweud ei fod yn asiantaeth adnabyddus yng Nghaerdydd.

Gan i mi fod wedi defnyddio nifer o asiantaethau gosod yn y gorffennol, gallaf sicrhau fod y problemau sy’n cael eu hamlygu yn yr erthygl hon yn gallu digwydd ymhobman, ta waeth pwy ydy’r asiantaeth (er mae rhai efo enw am fod yn waeth nag eraill).

Rydym yn ymddiheuro am hyn, gan nad ydym ninnau yn hoff iawn o sensoriaeth chwaith.

Tenantiaid Yn Erbyn Asiantaethau Gosod: Rhybudd

Roeddwn yn byw mewn tŷ yn Y Mynydd Bychan am flwyddyn, ynghyd â phedwar person arall. Cawsom amser gwych.

Wrth symud i dŷ rent mae’n gyffredin i ddisgwyl talu bond: swm o arian sydd yn cael ei ddal ar ran yr asiant neu landlord fel blaendal rhag ofn i rywbeth fynd o’i le yn ystod y denantiaeth (e.e. Os nad wyt ti’n talu dy rent, neu’n difrodi’r tŷ, gall gymryd yr arian hwn o’r bond). Pan mae’r denantiaeth yn dod i ben, os ydy popeth yn iawn efo’r tŷ a ti ‘n gyfoes efo dy rent, byddet yn cael dy fond yn ôl.

Neu o leiaf, fel hyn mae pethau yn fod i ddigwydd…

Pan symudom i mewn i gychwyn aethom drwy’r hwyl arferol o’r rhestr eiddo (yn rhestru popeth oedd yn y tŷ pam gyrhaeddom) gyda chynrychiolydd o’r asiantaeth (galwaf e’n Fred i wneud pethau’n haws).

Nodwyd ninnau fod cyflwr y carpedi yn awgrymu fod y tenantiaid blaenorol wedi bod yn cadw rhyw fath o anifeiliaid ffarm yn y tŷ: cytunodd Fred, a dweud y byddai’n gyrru’r glanhawyr carpedi cyn i ni symud ein dodrefn i mewn. Yna tynnom sylw at y ffaith fod y waliau wedi crafu ac yn wirioneddol angen eu peintio. Unwaith eto, cytunodd Fred, yn dweud y byddai’n gyrru peintiwr. Roeddem hefyd yn flin fod amryw o’r dodrefn llofft (cist o ddroriau) ddim yno fel roedd y rhestr eiddo yn awgrymu. Sicrhaodd Fred y byddai’r asiant yn cael rhai i ni.

Ac felly, yn ffôl, arwyddom y rhestr eiddo, yn ddiogel yn gwybod fod yr asiantaeth yn mynd i helpu ni yn fuan. Am anghywir oeddem ni.

Pan gyrhaeddodd y glanhawyr carpedi dywedodd byddai glanhau yn gwneud dim lles i’r carpedi, oedd yn ymweld fel eu bod wedi bod yn dyst i ryw ddefod aberthol hynafol cyn i ni symud i mewn. Felly gadawodd y glanhawyr, i adael i’r asiantaeth wybod fod angen carpedi newydd. Roeddem yn gywir, wrth i ni ddarganfod amryw fisoedd wedyn pan, wedi diflasu ar garpedi budr, talom i gael glanhau'r llawr gwaelod.  Wedi hyn roeddent yn lan prydferth, tan ychydig ddiwrnodau wedyn, pan sychom a dychwelyd i normal.

Yn y cyfamser, daeth dyn y galwn yn Ernie i’r tŷ i beintio’r waliau. Fe wnaeth fy nghariad banad o de iddo, a cyn iddo gael amser i oeri roedd o wedi mynd eto, yn datgan fod rhaid iddo beintio popeth, a ddim peintio darnau yn unig fel yr oeddem wedi dweud wrtho. Anghofiodd ei ysgol yn y broses, a oedd yn byw yn ein garej am flwyddyn. Dwi’n sicr nad ydy te fy nghariad mor ddrwg â hynny. Ar ben hynny, ni welsom y dodrefn erioed, yn y diwedd aethom i'r lle hudol o’r enw IKEA.

Doedd ein popty ddim yn gweithio yn iawn tan y Nadolig, er ein cecru parhaol i’r asiant ers diwedd Mehefin.

Y rheswm am yr oedi, meddai nhw, oedd am fod rhaid iddynt gysylltu â’r landlord oedd heb ffôn… Dwi ddim yn arbenigwr ar y busnes eiddo ond byddwn yn disgwyl dy fod yn cyflogi asiantaeth fel nad oedd rhaid i ti gael dy hysbysu o bethau fel hyn. [Is-Olyg: Dwi’n meddwl mai’r peth fwyaf gofidus yma ydy nad oedd eich landlord yn berchen ffôn!]

O wel, roeddem yn gallu coginio gyda’r popty cyfan (nid y gridyll yn unig fel yr oeddem hyd hynny) mewn amser am ginio Nadolig. Dyddiau da.

Ar un pwynt torrodd ein peiriant golchi, yn golygu tripiau i’r golchdy wrth ddisgwyl pythefnos iddo gael ei newid.

Heblaw am hyn i gyd, aeth pethau’n eithaf da yn y tŷ… tan yn ddiweddar pan symudom allan. Pan ddaeth yr amser iddynt osod eu harwydd ‘To Let’ i’r tŷ unwaith eto, llwyddodd yr asiant roi’n sownd ar ffens drws nesaf, ffoniodd ef yr heddlu a syllu yn wyllt arnom fel roeddem yn cyrraedd adref yn ein twrn. Dychwelodd yr asiant i roi’r arwydd yn sownd i’r porth pren, a daeth darn o’r porth yn rhydd oherwydd hyn. O, roeddem yn chwerthin.

Yr ergyd ydy ar ôl treulio dau ddiwrnod solat yn glanhau unwaith roeddem wedi symud allan, codwyd £290 o’n blaendal am: ‘anghenion glanhau’ (er iddo fod yn fwy glan na pan symudom i mewn), am ‘newid clo’ (gan fod allwedd nad oeddem erioed wedi’i gael yn awr ‘ar goll’) ac iawndal am y soffeydd… nid oherwydd bod y landlord yn prynu rhai newydd, ond am ei fod yn teimlo ei fod yn haeddu arian am y gorchuddion oedd wedi rhwygo (rwyf yn cydnabod efallai ein bod wedi ehangu’r tyllau yn y gorchuddion drwy gael ein dal yn y tyllau gwreiddiol wrth sefyll i fyny…oedd mi oeddem mor fawr â hynny.)

Erbyn dechrau Awst roeddem wedi llwyddo i gael y rhan fwyaf o’n blaendal yn ôl, diolch yn bennaf i drafod fy ffrind, a’r system mewn lle i amddiffyn blaendaliadau am yr union reswm hwn (y DPS). Cytunom i dalu oddeutu £80 am lanhau, a nawr mae’r DPS yn edrych i mewn i’r anghydfod rydym wedi ffeilio dros yr allweddau drws cefn sydd ar goll (na welsom erioed mohono) a ‘iawndal’ am y soffeydd.

Mae’n rhaid i ni gyflwyno ein tystiolaeth am pam rydym yn teimlo rydym yn haeddu ein blaendal yn ôl, mae’r asiant yn gwneud yr un peth, ac yna mae’r DPS yn gwneud penderfyniad. Felly croesi bysedd ar y funud.

Mae hwn yn rhybudd i unrhyw fyfyriwr neu unrhyw un arall sydd yn dechrau’r reid hwylus gydag asiantaeth. Dwi wedi clywed straeon fel un ni gan nifer o bobl ers i mi ddechrau siarad am y problemau hyn, felly mae’n ymddangos fel rhywbeth efallai fod pob asiant/landlord yn ceisio.

Fy nghyngor i fyddai: cymera LLAWER o luniau wrth symud i mewn ac allan, a chael unrhyw beth maen nhw'n ei addo i lawr ar bapur, yn sicrhau dy fod yn cael derbynneb am unrhyw waith ti wedi gorfod talu amdano. Nodyn gan fy ffrind y ‘prif denant’: “y cyngor MWYAF amhrisiadwy ydy i BOB AMSER dilyn unrhyw gyswllt gydag asiant gwerthu gydag e-bost, gan ei fod yn gofnod wedi’i ddyddio o union beth rwyt ti wedi’i ddweud ac union amser hefyd. Hyd yn oed os mai galwad ffôn ydyw, e-bostia’r asiant gosod gyda rhestr o’r pethau wedyn.” Geiriau call iawn.

Pob lwc pawb!

Linciau Perthnasol:

Canllaw CLIC Ar Rentu

Gwybodaeth >> Tai

Delwedd: Octagon House Staircase gan Luiz Felipe Castro

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.