Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Trefnu Fy Gig Cyntaf

Posted by dirty from Cardiff - Published on 23/09/2011 at 15:20
0 comments » - Tagged as Culture, Music, People, Stage, Work & Training

  • Ygig
  • ygig2
  • ygig3
  • ygig4
  • ygig5
  • ygig6

English version

Cyflwyniad Is-Olygydd: Mae dirty o Gaerdydd wedi profi fod y ffaith dy fod di yn yr ysgol uwchradd ddim yn rhywbeth i rwystro ti rhag rhoi gig ymlaen gyda bandiau'r holl ffordd o America. Mae hi'n esiampl ddisglair o sut dylai oed ddim bod yn rhwystr i gyflawni pethau gwych, ac rydym ni yma yn CLIC yn saliwtio hi am hyn.

Hefyd: ti wir angen darllen 'Pync Roc Halal?' cyn i ti fedru gwerthfawrogi'r stori hon yn llawn. Mae'n erthygl ddiddorol iawn a werth ei ddarllen.

O fewn chwe diwrnod roeddwn i wedi mynd o fod yn hyrwyddwr yn bwcio band rhyngwladol i blentyn ofn, yn aros i fyny trwy'r nos gyda nerfau am ddiwrnod y canlyniad. O edrych yn ôl, dwi ddim yn sicr sut llwyddais i drefnu'r holl beth.

Ychydig flynyddoedd yn ôl, ysgrifennais erthygl am taqwacore, yr sîn pync roc Islamaidd, ar gyfer theSprout. Ychydig iawn o bobl oedd wedi clywed am y symudiad yma a chafodd yr erthygl – o'r enw 'Pync Roc Halal?' – sylw nid yn unig o fewn theSprout ond gan brifysgol leol oedd eisiau ei roi ar eu gwefan i ddangos gallu'r bobl sydd yn graddio o'u cwrs ysgrifennu creadigol nhw. Ond roeddent wedi gwneud camgymeriad: nid oeddwn i wedi graddio o'r brifysgol. Roedd hyn yn bell i'r gwir; roeddwn i'n blentyn 14 oed yn dal i fyw gartref gyda'i mam.

Dois i wybod am The Kominas ar gefn y llyfr Blue Eyed Devil, gan Michael Muhammad Knight, roedd ffrind wedi rhoi benthyg i mi.

"Dwi'n gwybod nad yr wyt ti efo gwir ddiddordeb mewn Islam," meddai, "ond erbyn i ti orffen y llyfr yma, byddet yn ysu i gael gwybod mwy."

Roeddwn yn chwerthin ar ben y syniad yn fy ffordd sinigaidd ifanc, y ffordd mae plant yn ei wneud, ond roedd yn hollol gywir. O fewn dau fis roedd gen i'r albwm, ac roeddwn wedi symud ymlaen i'w lyfr cyntaf, the Taqwacores. Roedd pobl wedi darllen y llyfr ac wedi dechrau'r symudiad, wedi siomi nad oedd y bandiau na'r bobl ysgrifennai amdanynt (bob un yn rociwr pync Mwslim o ryw fath) yn bodoli go iawn.

Roedd y stori wedi ei hadrodd cymaint fel ei fod wedi dod yn rhyw fath o rannol mytholegol, yn ysbrydoli dogfen a ffilm nodwedd. Trwy taqwacre cyfarfuasai â thyrfa o ffrindiau: cyfarfuasai â merch Indonesaidd-Awstralaidd yn Awstralia, pyncs Mwslim yn Ewrop, ac amryw bobl yn yr UDA. Dwi'n parhau i fod yn ffrindiau gyda nhw hyd heddiw, ond roedd taqwacore yn agor i ni fel agor llythyr o amlen.

Nid ni oedd y bobl yn ysgrifennu'r llythyr, roeddem yn darllen y geiriau ar ôl i'r digwyddiadau ddigwydd. Mewn ffordd roeddem wedi'n cysylltu, mewn ffordd arall roeddem yn bell o fod wedi cysylltu. Nid oedd y rhai ohonom ar yr ymylon yno pam cafodd y Kominas ddamwain yn eu fan neu pan aeth Al Thawra i'r Ŵyl Cerddoriaeth Sundance. Roeddem i gyd yn gwylio'r peth yn digwydd ar Twitter wrth i'r faniau chwalu a'r offerynnau gael eu chwarae.

Roedd The Kominas wedi dod i Lundain y flwyddyn cynt, Bryste hefyd, ond roedd yn digwydd ar adeg fy arholiadau. Felly ni chefais weld yr un ohonynt ar y daith TaqwaTour Prydeinig cyntaf. Mewn ffordd, roeddwn i wedi cynhyrfu i ddod â'r symudiad Americanaidd rhannol mytholegol i'r ddinas roeddwn wedi fy magu. Fe geisiais lynedd, ond doedd neb am gymryd fi o ddifrif fel merch 16 oed eisiau llogi lleoliadau. Eleni fe ddigwyddodd, gyda chefnogaeth hyrwyddwr (wnaeth dynnu allan wedyn a gadael fi yn y ****). Dyma'r stori…

Panig

Dydd Gwener 12 Awst. Roeddwn wedi cyfri i lawr iddo. Roeddwn wedi croesi'r diwrnodau wrth iddynt ddod, yn disgwyl i ddydd Gwener gyrraedd. Roeddwn wedi gwneud popeth gallwn i ladd amser: wedi coginio swmp o fwyd i un o'r bandiau oedd yn chwarae'r noson honno… roeddwn i hyd yn oed wedi glanhau'r tŷ, fel myfyriwr yn osgoi astudio.

Roedd popeth yn mynd yn dda, heblaw am un peth: fy mos. Roedd yn gwneud popeth gallai i wneud hyn mor anodd â phosib i mi. Er mai fy syniad i oedd y gig yma, fe gamodd i mewn fel yr unig hyrwyddwr: dywedodd byddai'n cymryd cyfrifioldeb o'r trefnu ac yn benodol y lleoliad, gan mai llogi lleoliad (a'r diffyg arian) oedd ble roedd fy oed wedi rhwystro fi y tro diwethaf. Bwciodd ef y band, ac felly ei gefnogaeth ariannol ef fysa’n gweld ni drwy hyn os nad oeddem yn gwneud digon o arian ar y drws. Byddwn i yn rhoi'r posteri i fyny yn unig.

Er ei fod wedi bwcio'r bandiau ac wedi trefnu'r lleoliad, gwrthododd talu am gostau hyrwyddo, golygai fod rhaid i mi dalu am yr holl bosteri a thaflenni. Roedd yn anodd, yn flin, yn ddychrynllyd ac yn aml yn ffonio aelodau'r bandiau cefnogol i ddweud nad oeddwn yn gwneud fy ngwaith yn iawn. Roedd hyn yn gwneud pethau'n anodd, ond daliais ati.

Ac yna roedd hi'n ddiwrnod y gig. Cychwynnais yn fuan i gyrraedd y lleoliad erbyn 4yp. Nid oedd y drysau yn agor nes 7 o'r gloch, ond byddai'r bandiau yn cyrraedd yn fuan, yn gosod i fyny, ac yn ymlacio yn gyffredinol i ddathlu ei fod yn digwydd.

Oedd hyn yn digwydd?

Roedd hi'n amser cychwyn y prawf sain ond nid oedd golwg o'm bos yn unlle, ac nid oedd yn ateb ei ffôn. Roedd y dyn sain wedi sylweddoli ar y sefyllfa yma'n datblygu, a bygythiodd dynnu allan a mynd â'r holl offer gydag ef.

Hunllef? Ia. Aeth pethau'n waeth. Heb y bos yn ymddangos, nid oedd wedi dod â phobl i wneud y drws, ac ni allwn ofyn i bobl oedd wedi talu i ddod i mewn i wneud y drysau, gallwn i? Nid oedd arian fflôt ar gael chwaith. Arian fflôt ydy pam mae gen ti swm penodol tu ôl i'r drws fel bod pobl yn gallu rhoi newid i ti pan ti'n dod i mewn, rhag ofn nad oes gen ti'r arian cywir i dalu'r pris mynediad iawn.

Wyth o'r gloch. Awr ar ôl i'r drysau agor a dwi'n eistedd tu allan i Koko Gorilaz gyda'r pynciaid oedd wedi dod yno. Roedd Gung Ho (linc yn cynnwys rhegi) yno, grŵp craidd caled o'r cymoedd, a Godbomber o Abertawe. Roedd hefyd nifer fawr o bobl oedd eisiau gweld y gig, ond gan nad oedd y Kominas wedi troi fyny, doeddwn i ddim yn siŵr sut roeddwn i'n teimlo am godi ar bobl i weld prif fand oedd ddim wedi dod yno eto.

Nid oedd rhif gen i, a doedd y bos dal ddim yn codi'r ffôn. Roeddwn i'n poeni ei fod wedi canslo The Kominas i sbeitio fi am ryw reswm, a gadael i mi orfod delio gyda phethau fel hyn. Roedd pobl yn gofyn cwestiynau i mi allwn i ddim ateb, ac roedd ymateb gyda, "Gofynna i'm ****ing bos, ei sioe ef ydy hwn, nid un fi. Dim ond rhoi posteri a thaflenni i fynnu oeddwn i ac yn ei hyrwyddo ar-lein," yn llawer rhy ddigywilydd, hyd yn oed i mi.

Naw o'r gloch a dyma The Kominas yn troi i fyny. Roedd y rhyddhad yn annisgrifiadwy! Hwyliodd yr awr nesaf heibio mewn dim. A dyna pryd gychwynnodd pethau ddisgyn yn eu lle.

Roedd rhyw enaid caredig wedi rhoi benthyg arian fflôt i mi. Dywedais wrth yr holl fandiau beth oedd yn digwydd gyda'r bos, ac fe wnaeth pawb helpu. Godbomber a Gung Ho, os ydych chi'n darllen, dwi'n ddiolchgar i chi am byth. Roedd pobl yn cymryd twrn i fod ar y drws, gan nad allwn wneud hyn fy hun. Roedd y bos yn absennol felly camais i mewn. Ni allwn wneud y drws pan roedd rhaid i mi siecio popeth. Fy ngig i oedd hwn nawr.

Fe ddigwyddodd. Anghofiais nad yw gig byth mor syml ag mae'n edrych ar yr wyneb, ac roedd bod yn rheolwr llwyfan hunan penodedig yn golygu set newydd o broblemau i ddelio gyda nhw… roedd diod Boris, aelod o Gung Ho, wedi cael ei gymryd ganddo, ac roedd Lewis, y drymiwr, wedi ceisio'i gael yn ôl. Pan na chafwyd y diod, cipiodd Lewis gacen pen-blwydd gan deulu diniwed a'i luchio ar y nenfwd – a doedd ei brocio'r gydag ysgubell ddim yn cael y gacen i lawr. Aeth pawb yn wyllt tra roeddwn i yn ceisio tawelu’r sefyllfa. Dwi'n meddwl mai ar y pwynt yma efallai fy mod i wedi troi'n wallgof go iawn.

Roedd hi'n 11 o'r gloch; set The Kominas. Roedd pawb yn gwybod pa mor ddrwg oedd y gig yma wedi cychwyn, felly iddo barhau i ddigwydd, roedd hynny'n wyrth. Efallai fod hyn wedi ffyrnigo nhw fwy, ond dwi erioed wedi gweld mwy o egni yn ystafell atig y Koko Gorilaz. Yn annhebyg i Lundain, prin mae taqwacore wedi cyffwrdd Caerdydd, ac felly roedd The Kominas wedi tynnu mwy o dorf benodol yn Llundain oherwydd ei awyrgylch cosmopolitan o gymharu â Chaerdydd.

Dweda wrthyf, beth sydd gan ffans ska pen croen Pwylaidd yn deifio'r llwyfan, pyncs yn cychwyn pits bychan a Mwslemiaid arferol ar yr ochr yn canu i Bollywood yn gyffredin? Cariad o'r Kominas. Neu taqwacore. Neu, pwy a ŵyr, efallai'r ddau?

Y Canlyniad

Ac yna daeth popeth i derfyn. Roedd yna 'ôl barti' bychan, sef ystafell lawn amryw pync a meddw, i gyd yn siarad gyda'i gilydd. Arweiniodd fy ffrind a finnau The Kominas i'r gyffordd roeddent angen yn Nwyrain Caerdydd i gael yn ôl i Lundain i ddal yr awyren, ac ymadawon ein gilydd am 2yb, gyda nhw'n dal awyren am 7yb.

Roedd popeth gallai fynd o'i le wedi mynd o'i le. Aeth y noson yn ddrwg, dwi'n gwybod hynny, ond mewn ffordd, fwi'n falch. Os fyddaf i yn penderfynu gwneud sioeau eto, dwi'n barod ac unrhyw beth gall ddigwydd. Ni lwyddom i wneud digon o arian, tynnodd y bos allan, bu i ni bron iawn gael torri ein trydan gan ein bod wedi mynd yn agos iawn i groesi cyfreithiau cerddoriaeth byw'r lleoliad ac fe gychwynnodd tua thair awr yn hwyr.

Collais ar y noson, a dim fi hyd yn oed oedd wedi llogi'r lleoliad na'r bandiau. Ni chefais dim o'r arian na'r amser roeddwn wedi'i fuddsoddi yn ôl, ond fe lwyddom i gyrraedd costau sylfaenol pawb: petrol, ceir ac ati. Dyna ydy'r peth pwysicaf i mi, doedd dim ots gen i am golli, ond ni fyddwn yn gallu dioddef os nad oeddwn i yn gallu talu i bobl am yr amser roeddent wedi'i roi i ni. A gwae fi, fe wnaethom ni. Fe gymerodd llawer ohonom, a llawer o straen, ond fe ddigwyddodd. I bawb ohonoch roddodd gymorth, eu hamser ar y drws, a'u hamser i hyrwyddo: diolch i chi.

Y diwrnod wedyn, daeth y bore yn sgrechian drwy bindwll. Ac ychydig ddyddiau wedyn, cefais fy nghanlyniadau o'r coleg, ABB, A mewn Astudiaethau Crefyddol gyda 94%  a B gyda 75% yn Ffrangeg a Chymraeg. Yn syth roeddwn i wedi mynd o rhan-fwcio a llwyddo i gael grŵp rhyngwladol i'm nhref i, i fod yn ferch 17 oed unwaith eto.

Dwi'n cychwyn yn y coleg eto mewn wythnos. Mae pobl yn dweud wrthyf dylwn i roi mwy o sioeau ymlaen ar ôl llwyddo i gynnal yr un yma, ond dwi'n meddwl mod i yn dal i ddod dros y cyntaf.

Nodyn Golygydd: Aeth The Kominas ar y llwyfan a diolch dirty yn bersonol, yn gwerthfawrogi'r gwaith caled roedd hi wedi'i wneud, a chael y gynulleidfa gyfan i gymeradwyo hi. Er (neu efallai oherwydd) yr anrhefn roedd hon yn gig epig a byddwn i yn bendant yn mynd i'r gig nesaf os bydd hi'n ceisio trefnu un eto.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.